Mae godro wedi bod wrth wraidd ffermio yn ardal De Orllewin Cymru sy'n cwmpasu Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ers amser hir, ac mae gan yr ardal yr amodau hinsawdd delfrydol ar gyfer tyfu glaswellt, gyda hyd at 125cm o law bob blwyddyn, ac mae effaith gynnes llif Môr yr Iwerydd sy’n dod â cherrynt cynnes i'r morlin garw yn dylanwadu arni hefyd. Mae'r amodau delfrydol hyn, ynghyd â'r sgil a'r arbenigedd ffermio cynhenid a drosglwyddwyd dros y cenedlaethau, yn hwyluso'r gwaith o gynhyrchu peth o'r llaeth gorau yn Hemisffer y Gogledd. Ansawdd gwych y llaeth yw'r sail berffaith i gynhyrchion llaeth Sancler Organic.

Y ffordd organig...

Cyfarfod â'r fuches...

Y tarddle...

© Copyright Sanclêr 2007 Cynhyrchyd gan Monddi